2014 Rhif 460 (Cy. 53)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1986/975) (“Rheoliadau 1986”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (1997/818) (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (2007/1104 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1986 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5) (“Deddf 2012”).

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1997 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2007 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.    

 

 

 


2014 Rhif 460 (Cy. 53)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014

Gwnaed                                 1 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Mawrth 2014

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986([2]);

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997([3]); ac

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007([4]).

Diwygio Rheoliadau 1986

3. Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.

Diwygio Rheoliadau 1997

4. Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.

Diwygio Rheoliadau 2007

5. Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007 yn lle “29 Ebrill 2013” rhodder “1 Ebrill 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

1 Mawrth 2014

 



([1])           2006 p.42.

([2])           O.S. 1986/975 fel y’i diwygiwyd.

([3])           O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.

([4])           O.S. 2007/1104 (Cy.116) fel y’i diwygiwyd.